Mae Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru, yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i ganllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol.
Bwriad y diwygiadau arfaethedig yw:
- gwneud y ddogfen yn fwy hygyrch gyda fformatio gwell a chynnwys sy’n haws i'w ddarganfod.
- defnyddio iaith hygyrch a hawdd i'w deall er mwyn cyd-fynd yn well â Deddf Cydraddoldeb 2010
- diweddaru cyd-destun y polisi
- esbonio ein safonau dylunio
- symleiddio penodau, a chryfhau canllawiau ymgysylltu i ysgogi cyfranogiad ehangach
- cefnogi gwell integreiddio rhwng trafnidiaeth gyhoeddus a cherdded, olwynio a beicio
- pwysleisio arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a defnyddio terminoleg gyson i gefnogi awdurdodau lleol i ddarparu rhwydweithiau teithio llesol cynhwysol o ansawdd uchel ledled Cymru
Mae'r dogfennau ymgynghori i'w gweld yma:
www.llyw.cymru/canllawiaur-ddeddf-teithio-llesol
Dyddiad cau: 13 Chwefror 2026
Mae Llywodraeth Cymru yn eich gwahodd i ymuno â gweminar / diwrnod o weithdai wyneb-yn-wyneb sy’n trafod y newidiadau arfaethedig.
Cofrestrwch heddiw i gadarnhau eich lle! Edrychwn ymlaen at eich gweld.