Ymgynghoriad Canllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol  Gweithdy 1 (De Cymru)
Not Favorite

Government & Politics

Ymgynghoriad Canllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol Gweithdy 1 (De Cymru)

wallert

£0.00

December 2025
Availability :
Good Availability
Limited Availability
Low Availability
Sold Out
Sun
Mon
Tue
Wed
Thu
Fri
Sat
 
 
 
 
 
Calender...

Dweud eich dweud ar newidiadau arfaethedig i Ganllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru).

Mae Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru, yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i ganllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol.

Bwriad y diwygiadau arfaethedig yw:

  • gwneud y ddogfen yn fwy hygyrch gyda fformatio gwell a chynnwys sy’n haws i'w ddarganfod.
  • defnyddio iaith hygyrch a hawdd i'w deall er mwyn cyd-fynd yn well â Deddf Cydraddoldeb 2010
  • diweddaru cyd-destun y polisi
  • esbonio ein safonau dylunio
  • symleiddio penodau, a chryfhau canllawiau ymgysylltu i ysgogi cyfranogiad ehangach
  • cefnogi gwell integreiddio rhwng trafnidiaeth gyhoeddus a cherdded, olwynio a beicio
  • pwysleisio arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a defnyddio terminoleg gyson i gefnogi awdurdodau lleol i ddarparu rhwydweithiau teithio llesol cynhwysol o ansawdd uchel ledled Cymru

Mae'r dogfennau ymgynghori i'w gweld yma:

www.llyw.cymru/canllawiaur-ddeddf-teithio-llesol

Dyddiad cau: 13 Chwefror 2026

Mae Llywodraeth Cymru yn eich gwahodd i ymuno â gweminar / diwrnod o weithdai wyneb-yn-wyneb sy’n trafod y newidiadau arfaethedig.

Cofrestrwch heddiw i gadarnhau eich lle! Edrychwn ymlaen at eich gweld.

Find Ticket

86-88 Adam Street, Cardiff, CF24 2FN

Jan 8, 2026 -9:30 AM