
Llwybr Cadfan - Day 11, Theme: "The Poetics of Language and Space"
Beginning at tranquil St Engan’s church, our pilgrimage leader will offer an intention-setting reflection, with moments of guided reflection throughout the day. We’ll then follow the coast toward Aberdaron, stopping to photograph and take in the landscape. We’ll focus on seeing differently through composition, perspective, and mindful pauses.
A highlight of the day is our visit to St Maelrhys church. The famous Anglo-Welsh poet RS Thomas was Vicar of this parish from 1967 to 1978. From its quiet upper room we’ll reflect on his poetry and photograph the view toward Ynys Enlli, the “island of 20,000 saints,” exploring how words and images can give deeper meaning to one another.
All are welcome, whether you seek inspiration, reflection, or simply time behind the lens.
------------------------------------
This Pilgrimage takes place every Saturday from January 10th to March 28th, with an additional date on Sunday, January 25th. Participants must book individually for each day they wish to attend.
This is a full-day outdoor walk, and a good level of physical fitness is required from all participants.
You will need to provide your own camera or camera-phone.
Weather conditions during this time of year can be highly variable, so it is essential that participants come equipped with suitable clothing and gear. Additional information can be found at the link below and will also be provided upon booking:
https://www.outdooractive.com/en/route/pilgrim-walk/north-wales/11.-llanengan-aberdaron/276295685/
Llwybr Cadfan – Diwrnod 11, Thema: “Barddoniaeth Iaith a Gofod”
Gan ddechrau yn eglwys dawel Engan Sant, bydd ein harweinydd pererindod yn cynnig myfyrdod i osod bwriad ar gyfer y dydd, gydag eiliadau o fyfyrdod dan arweiniad drwy gydol y daith. Yna byddwn yn dilyn yr arfordir tuag at Aberdaron, gan stopio i dynnu lluniau a mwynhau’r dirwedd. Byddwn yn canolbwyntio ar edrych ar bethau'n wahanol drwy gyfansoddiad, safbwynt, a seibiannau myfyriol.
Un o uchafbwyntiau’r diwrnod yw ein hymweliad â chapel Maelrhys Sant. Y bardd Eingl-Gymreig enwog RS Thomas oedd Ficer y plwyf hwn o 1967 i 1978. O’i hystafell ucha’ dawel, byddwn yn myfyrio ar ei farddoniaeth ac yn tynnu llun o’r olygfa tuag at Ynys Enlli, “ynys 20,000 o saint,” gan archwilio sut y gall geiriau a delweddau gryfhau ystyr ei gilydd.
Croeso i bawb, p’un a ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth, myfyrdod, neu’n syml am amser y tu ôl i’r lens.
------------------------------------
Mae’r Bererindod hon yn digwydd bob dydd Sadwrn o 10 Ionawr tan 28 Mawrth, gyda dyddiad ychwanegol ar ddydd Sul, 25 Ionawr. Rhaid i gyfranogwyr archebu’n unigol ar gyfer pob diwrnod y maent yn dymuno mynychu.
Mae hwn yn gerdded awyr agored drwy’r dydd, ac mae angen lefel dda o ffitrwydd corfforol ar bob cyfranogwr.
Bydd angen i chi ddarparu’ch camera eich hun neu ffôn â chamera.
Gall yr amodau tywydd yn ystod y cyfnod hwn o’r flwyddyn fod yn amrywiol iawn, felly mae’n hanfodol bod cyfranogwyr yn dod â dillad a chyfarpar addas. Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol drwy’r ddolen isod, a bydd hefyd yn cael ei ddarparu ar ôl archebu:
https://www.outdooractive.com/en/route/pilgrim-walk/north-wales/11.-llanengan-aberdaron/276295685/